Rwy’n gyfathrebwr ac yn ddylanwadwr proffesiynol a phrofiadol sy’n gallu gweithio’n ddwyieithog.

I am an experienced communications and influencing professional who can work bilingually.

Gwaith | Work

Ers derbyn fy ngradd mewn Cymraeg a Gwleidyddiaeth o Brifysgol Caerdydd, rwyf wedi gweithio’n bennaf ym maes addysg drydyddol, ond mae gen i brofiad hefyd o weithio ym meysydd yr amgylchedd a llais y dysgwr, ac mewn gwleidyddiaeth bleidiol.

Since graduating with my degree in Welsh and Politics from Cardiff University, I have mainly worked in tertiary education, but I also have experience of working in the environment and student voice sectors, and in party politics.

Gwirfoddoli | Volunteering

Yn ogystal â’m gwaith proffesiynol, rwyf hefyd wedi ymrwymo i wasanaeth cyhoeddus. Rwy’n llywodraethwr ysgol profiadol yn fy nghymuned leol a hefyd yn gwasanaethu fel ynad yn y llys troseddol i oedolion.

As well as my professional work, I am also committed to public service. I am an experienced school governor in my local community and also serve as a magistrate in the adult criminal court.